Seasearch Cymru yn gwarchod arfordir Cymru drwy wyddoniaeth dinasyddion a gwirfoddoli
Rydym yn falch o gyhoeddi bod Seasearch Cymru yn fwy gweithgar nag erioed, diolch i gymorth gan Gynllun Cymunedau Treth Gwarediadau Tirlenwi Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei weinyddu gan CGGC.
Mae’r cyllid hwn yn caniatáu i’n gwyddonwyr ddinasyddion a’n gwirfoddolwyr fynd gam ymhellach i ddiogelu ecosystemau morol unigryw ac amrywiol Cymru.
Prosiect gwyddoniaeth dinasyddion cenedlaethol yw Seasearch, sy’n cael ei gydlynu gan y Gymdeithas Cadwraeth Forol, ble mae gwirfoddolwyr hyfforddedig—deifwyr a snorcelwyr—yn arolygu ac yn cofnodi cynefinoedd a rhywogaethau morol. Mae’r data y maen yn eu casglu yn rhoi cipolwg hollbwysig ar iechyd amgylcheddau morol, gan helpu i lywio gwaith cadwraeth, penderfyniadau polisi, a rheoli’r ecosystemau tanddwr gwerthfawr hyn.
Yng Nghymru, mae Seasearch yn canolbwyntio ar arolygu rhanbarthau allweddol, yn arbennig y rhai sy’n amgylchynu pedwar safle tirlenwi: Clive Hurt Plant Hire Ltd (sy’n cwmpasu Ynys Môn a Gogledd Cymru), Gwynedd Skip and Plant Hire (Gogledd Cymru ac Ynys Môn), Thomas Brothers (Aberdaugleddau a Doc Penfro), a G. Davies Skip Hire (maestrefi Port Talbot ac Abertawe). Mae’r rhanbarthau hyn yn cynrychioli ardaloedd arfordirol pwysig ble mae ecosystemau morol yn ffynnu ac o dan fygythiad yn sgil llygredd, gweithgareddau diwydiannol a newid hinsawdd.
Credit: The Honest Diver
Diolch i’r cyllid hwn, mae gwirfoddolwyr yn casglu data hollbwysig o’r rhanbarthau penodol hyn gyda’r nod o gofnodi rhywogaethau a chynefinoedd sy’n hollbwysig i fioamrywiaeth Cymru, gan sicrhau bod yr ymdrechion cadwraeth yn targedu’r ardaloedd sydd â’r angen mwyaf. Mae tîm Seasearch Cymru hefyd yn gweithio gyda’r gymuned i helpu i greu cysylltiad â’r cefnfor. Gyda digwyddiadau fel sgyrsiau addysgol, hyfforddiant ar adnabod bywyd morol, saffari glan y môr a glanhau traethau, mae rhywbeth at ddant pawb. Mae’r cefnfor yn llwyddo i ddod â phobl at ei gilydd a nod y digwyddiadau hyn yw gwneud i bobl deimlo’n llai ynysig ac unig o fewn y gymuned, gwella llesiant drwy gysylltu â natur, a dod â phobl o’r un anian ynghyd i wneud pethau anhygoel i ddiogelu eu cynefinoedd morol lleol.
Cipolwg ar sesiwn ddeifio ddiweddar Seasearch
Yn y fideo isod, mae Cydlynydd Seasearch Cymru, Matt, yn disgrifio ei sesiwn ddeifio ar hyd arfordir trawiadol Penrhyn Gŵyr. Mae’r ardal hon yn enwog am ei riff creigiog, broc môr a bywyd morol ffyniannus. Nid dim ond y golygfeydd y mae deifwyr a snorcelwyr Seasearch yn eu mwynhau—maen nhw hefyd yn casglu data pwysig sy’n cyfrannu at wella’r ddealltwriaeth o sut mae’r ecosystemau hyn yn newid.
Dyma un o’r llu o ddigwyddiadau y bu modd ei gynnal, diolch i Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, sy’n cefnogi gwaith ymchwil hanfodol ac yn helpu’r Gymdeithas Cadwraeth Forol i ymestyn ei hyfforddiant Seasearch, arolygon a digwyddiadau ymgysylltu â’r gymuned ledled Cymru, yn arbennig yn y rhanbarthau sy’n agos at ein pedwar safle tirlenwi dan sylw.
Pam mae Seasearch yn bwysig i ddyfodol Cymru
Mae cysylltiad uniongyrchol rhwng iechyd ein cefnfor ac iechyd ein cymunedau a’n heconomi. Mae dyfroedd arfordirol Cymru yn gartref i gynefinoedd a rhywogaethau sy’n chwarae rhan hollbwysig yn y broses o gefnogi bioamrywiaeth a chynnal diwydiannau fel pysgota a thwristiaeth.
Mae Seasearch Cymru yn rhan ganolog o’r ymdrechion hyn. Drwy gynnwys cymunedau lleol drwy gyfrwng gwyddoniaeth ac addysg ymarferol, mae pobl yn cael eu grymuso i gymryd camau i ddiogelu eu hamgylcheddau morol lleol. Drwy gynnal arolygon, mae tîm Cymdeithas Cadwraeth Forol Seasearch yn casglu data hanfodol am rywogaethau fel y môr-wyntyll binc, y llyngyren ddiliau, a fforest môr-wiail, yn ogystal â rhywogaethau goresgynnol estron sy’n fygythiad i gydbwysedd ein hecosystemau.
Diolch i’r cyllid newydd hwn, mae Seasearch Cymru wedi gallu cynyddu nifer yr arolygon a gynhelir mewn ardaloedd heb lawer o ddata, gan sicrhau nad oes unrhyw gornel o amgylchedd morol Cymru heb ei monitro. Bydd y data’n cael eu rhannu ag awdurdodau lleol, swyddogion polisi a grwpiau cadwraeth i’w helpu i wneud penderfyniadau ar warchod bywyd morol a datblygiad cynaliadwy, gan gyfrannu at y nod o warchod 30% o’n moroedd erbyn 2030.
A Seasearch diver collecting data on marine species
Credit: The Honest Diver
Cymerwch ran!
Mae Seasearch wastad yn chwilio am wirfoddolwyr newydd sy’n teimlo’n angerddol am gadwraeth forol. P’un a ydych yn ddeifiwr profiadol, yn snorcelwr neu’n gwirioni ar arfordir trawiadol Cymru, mae digonedd o ffyrdd y gallwch gymryd rhan yn Seasearch.
Dyma sut y gallwch helpu:
- Gwirfoddoli fel deifiwr neu snorcelwr i gasglu data am rywogaethau a chynefinoedd morol.
- Mynychu cwrs hyfforddiant Seasearch i ddysgu sut i gofnodi bywyd morol a chyfrannu at ein cronfa ddata.
- Ymuno â saffari glan y môr os yw’n well gennych archwilio bywyd morol ar ymyl y lan.
- Lledaenu’r gair! Rhannu gwaith Seasearch ar y cyfryngau cymdeithasol ac annog eraill i gyfrannu at warchod ein moroedd.
Os hoffech ddysgu mwy neu gymryd rhan, cysylltwch â’r Seasearch heddiw. Gyda’n gilydd, gallwn helpu i ddiogelu’r bywyd morol anhygoel y mae Cymru yn gartref iddo.
Diolch i’n cyllidwyr
Hoffai’r Gymdeithas Cadwraeth Forol ddiolch yn fawr i Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi a CGGC am eu cymorth parhaus. Heb y cyllid hwn, ni fyddai gweithgareddau estynedig yr elusen Seasearch a’i waith ymgysylltu ledled Cymru–yn arbennig o amgylch y pedwar safle tirlenwi–yn bosibl. Drwy gydweithio, gallwn warchod ecosystemau morol Cymru am genedlaethau i ddod.