
Gweithredu Cymunedol
Dysgwch fwy am y gweithgareddau a gyflwynwyd gennym i gysylltu pobl leol â'r cefnfor.
Rhaglen Cysylltiad y Cefnfor
Fe wnaethom gyflwyno amrywiaeth o weithgareddau cyffrous rhwng Gorffennaf 2024 a Chwefror 2025. Darllenwch ymlaen i ddysgu mwy am sut y gwnaethom ymgysylltu â chymunedau Prestatyn, y Rhyl, Bae Cinmel a Thywyn!
Beth yw Rhaglen Cysylltiad y Cefnfor?
Roedd Rhaglen Ocean Connection yn llawn gweithgareddau a chyfleoedd natur, dan do a rhithwir, o lanhau traethau ac arolygon bywyd gwyllt i gelf a chrefft a dangosiadau dogfennol.
Roedd ein gweithgareddau lleol, rhad ac am ddim, yn cefnogi pobl i ddeall yn well ein dylanwad ar y cefnfor, a dylanwad y cefnfor arnom ni. Cafodd pobl leol gyfle i ddysgu pethau newydd, datblygu sgiliau, cymryd camau i wneud gwahaniaeth yn lleol, a chymryd rhan mewn gweithgareddau i gefnogi iechyd a lles.
Cynlluniwyd y Rhaglen gyda Fforwm Un Cefnfor, grŵp o bobl leol o Brestatyn, y Rhyl, Bae Cinmel a Thowyn sy’n arwain y prosiect HYYM trwy gynghori tîm craidd y prosiect. Darllenwch fwy am Fforwm Un Cefnfor.

Credit: Denbighshire County Council Staff, 2024
Y gweithgareddau
Roedd Rhaglen Connection Ocean HYYM yn cynnig gweithgareddau hygyrch am ddim i bobl sy’n byw ym Mhrestatyn, y Rhyl, Bae Cinmel a Thywyn.
Cynhaliwyd digwyddiadau cyhoeddus a oedd yn agored i unrhyw aelod o’r gymuned leol, a chynigwyd sesiynau preifat hefyd i ysgolion a grwpiau cymunedol.
Derbyniodd aelodau o’r gymuned a gwblhaodd un gweithgaredd o bob thema (dysgu, lles, a gweithredu) stampiau ar gerdyn teyrngarwch ac yna gallent ‘ddatgloi’ gweithgaredd arbennig unigryw i bobl sydd wedi cwblhau gweithgareddau ym mhob un o’r tair thema.
Yn gyfan gwbl fe wnaethom gyflawni 96 o weithgareddau yn y Rhaglen Ocean Connection, gyda 1,288 o bobl yn cymryd rhan.

Credit: HYYM Project Team
Dysgu
Lles
Gweithredu
Gweithgareddau arbennig
Gwirfoddoli
Cefnogwyd y prosiect hwn gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur sy’n cael ei darparu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, ar ran Llywodraeth Cymru.
