Ar Frig Y Don
4 minute read
Croeso i #ArFrigYDon, prosiect addysg newydd sydd wedi’i ddylunio i hysbysu pobl am ein planed las ryfeddol a’i hysbrydoli i gymryd camau gweithredu.
Amdan #ArFrigYDon
Mae cynnwys ein hadnoddau wedi’i wreiddio yng Nghymru, gyda’r nod o ddatblygu ymdeimlad cryf o hunaniaeth a dealltwriaeth o faterion cefnforol lleol. Mae’r adnoddau yn edrych ar faterion byd-eang hefyd, gan gryfhau datblygiad disgyblion fel dinasyddion cyfoes Cymru a’r byd.
Bydd pob cynllun gwers yn cynnwys dolenni cwricwlwm manwl a bydd yr adnodd ei hun yn cyflwyno’r cyfle i ysgolion ddefnyddio dull thematig integredig dros y Meysydd Dysgu a Phrofiad, gan gefnogi disgyblion i wneud cysylltiadau eglur ar draws y cwricwlwm.
Cyflwyniad i’r cefnfor
Yn y cyflwyniad hwn, bydd disgyblion yn dysgu i adnabod pryderon amgylcheddol a datblygu atebion rhagweithiol i faterion amgylcheddol wrth archwilio pa mor bwysig yw’r cefnfor i fywyd.
Materion yn ymwneud â’r Cefnfor
Yn yr adran hon, bydd disgyblion yn archwilio materion yn ymwneud â’r cefnfor, gan ganolbwyntio ar lygredd morol, newid hinsawdd a physgota cynaliadwy.
Mae’r gwersi hyn yn archwilio’r bygythiadau sy’n dod yn sgil llygredd morol. Mae’n gwahodd disgyblion i archwilio sut mae llygredd yn cyrraedd ein dyfroedd a pha gamau gweithredu y gall pobl eu gwneud i atal llygredd dŵr.
Mae’r gwersi hefyd yn arwain disgyblion i ddarganfod pam fod cefnfor iach mor bwysig wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd a chefnogi bywyd morol.
Bydd disgyblion yn datblygu eu dealltwriaeth o bwysigrwydd ymddwyn yn gynaliadwy a sut y gallan nhw wneud newidiadau cadarnhaol fel unigolion, ysgol neu gymuned.
Llygredd morol
Mae’r gwersi hyn yn archwilio’r bygythiadau sy’n dod yn sgil llygredd morol. Mae’n gwahodd disgyblion i archwilio sut mae llygredd yn cyrraedd ein dyfroedd a pha gamau gweithredu y gall pobl eu gwneud i atal llygredd dŵr.
Newid hinsawdd
Pysgod cynaliadwy
Cymryd camau gweithredu yn eich ysgol
Ar ôl darganfod ein syniadau #ArFrigYDon ym mhob cynllun gwers, mae’r adran hon yn cyflwyno canllawiau a syniadau defnyddio i helpu disgyblion i godi mwy o ymwybyddiaeth yn eu hysgolion, eu cymunedau a thrwy’r cyfryngau cymdeithasol.