
Medi 2024
Y mis hwn, cefnogodd tîm HYYM y Great British Beach Clean, mynychu cynhadledd ryngwladol a defnyddiwyd data o brosiect HYYM fel tystiolaeth yn y Senedd!
Glanhau Traethau Prydain Fawr
Fforwm Un Cefnfor
Cynhaliom chweched cyfarfod Fforwm Un Cefnfor yng Nghlwb Pêl-droed y Rhyl – lleoliad newydd i ni! Gan ei bod yn ddiwrnod heulog braf, roeddem yn gallu cynnal un o weithgareddau'r Fforwm y tu allan ar y cae!

Credit: Ciara Taylor
Buom yn gweithio ar gyd-ddylunio’r canllaw i lythrennedd cefnforol, a gellir lawrlwytho’r fersiwn terfynol yn Gymraeg ac yn Saesneg. Rhannodd y Fforwm syniadau ar ddiben, cynulleidfa a negeseuon allweddol y canllaw, a’r camau y byddem yn gobeithio i bobl eu cymryd ar ôl darllen y canllaw. Mae cyd-ddylunio ein holl adnoddau llythrennedd cefnforol gyda'r Fforwm yn golygu y gallwn greu allbynnau effeithiol a chydweithredol.
Fe ddechreuon ni hefyd gynllunio dyfodol y Fforwm. Gyda dim ond dau gyfarfod o’r Fforwm ar ôl, dechreuodd aelodau’r Fforwm feddwl sut y byddent am barhau i weithio yn eu cymunedau y tu hwnt i ddiwedd swyddogol prosiect HYYM ym mis Mawrth 2025.

Credit: Ciara Taylor
Cynhadledd Cymdeithas Addysgwyr Gwyddor Môr Ewrop (EMSEA).
Teithiodd aelodau tîm HYYM Ciara Taylor a Ffion Mitchell Langford i Croatia ar gyfer Cynhadledd EMSEA i gyflwyno canfyddiadau'r prosiect a lledaenu gair prosiect HYYM i gynulleidfa ryngwladol. Roedd gan gynrychiolwyr y gynhadledd ddiddordeb mewn dulliau ymgysylltu cymunedol prosiectau HYYM, y defnydd o gyd-ddylunio, a chynhyrchu adnoddau llythrennedd cefnforol dwyieithog.

Credit: EMSEA conference delegate, 2024
Data HYYM yn y Senedd
Defnyddiodd Chloe Wenman, Rheolwr Polisi ac Eiriolaeth y Gymdeithas Cadwraeth Forol, ddata o brosiect HYYM wrth roi tystiolaeth yn y Senedd. Roedd hon yn foment arbennig o gyffrous i dîm HYYM bod ein data a’n canfyddiadau’n cael eu defnyddio ar raddfa genedlaethol i lywio polisi.