Ein ffocws yng Nghymru
Mae moroedd Cymru’n wirioneddol arbennig. Dyma le mae dyfroedd cynnes a llawn bwyd yn gwrthdaro â moroedd oerach. Am y rheswm hwnnw, mae bron i hanner y moroedd o amgylch Cymru’n ardaloedd morol gwarchodedig - gan gydnabod y rhywogaethau a'r cynefinoedd anhygoel sydd yma.
Rydyn ni wedi bod yn gweithio yng Nghymru ers bron i 20 mlynedd. Buon ni’n helpu i annog cyflwyniad y gwaharddiad ar gasglu cregyn bylchog mewn ardaloedd bregus a chreu Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf.
Ar ôl bron i ddegawd o ymgyrchu, ni oedd y genedl gyntaf yn y DU i gyflwyno'r tâl bagiau cludo - ers hynny, mae nifer y bagiau plastig a welwn ar draethau Cymru yn ystod ein sesiynau glanhau traethau wedi gostwng o 88%.
Rydym wedi rhoi tystiolaeth i nifer o ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ac wedi croesawu bron i 20,000 o wirfoddolwyr, gan gynnwys y Prif Weinidog, i sesiynau glanhau traethau ledled y wlad ac mae nifer o Aelodau'r Senedd wedi ymrwymo i fod yn hyrwyddwyr rhywogaethau morol.
Rydyn ni eisiau i bawb fwynhau buddion ein moroedd am flynyddoedd i ddod. Mae’r gwaith o amddiffyn a rheoli moroedd Cymru wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru.
Am fod hanner dyfroedd Cymru wedi'u gwarchod yn dechnegol, dylent fod yn ffynnu - ond dydyn nhw ddim. Rydym yn wynebu argyfwng natur a hinsawdd ac mae angen i’r Llywodraeth roi blaenoriaeth frys i ddiogelu moroedd Cymru.
Rydym yn ymdrechu drwy’r amser i ddylanwadu ar Senedd Cymru drwy ein gwaith eirioli i wneud i hynny ddigwydd.